News Article

Gweithred yn erbyn sbeicio – camau nesaf Yr Undeb

Mae diogelwch myfyrwyr yn ein lleoliadau yn hynod o bwysig i ni. Yn yr Undeb Myfyrwyr, rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i sicrhau fod ein myfyrwyr yn cael y profiad myfyrwyr gorau ac sy’n bosib. I gefnogi hyn, rydym yn buddsoddi’n drwm yn ein mentrau ddiogelwch i sicrhau gall pawb cael mynediad i’r digwyddiadau, gweithgareddau a chymorth mewn amgylchedd diogel. Yn ôl, gofynnom i ein gweision i wneud ei rhan yn cadw ei hun a phawb o’i amgylch yn ddiogel.

cymraegfeaturedsafetyspikingsupportuswsuvenueswellbeingwelsh

Mae diogelwch myfyrwyr yn ein lleoliadau yn hynod o bwysig i ni. Yn yr Undeb Myfyrwyr, rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i sicrhau fod ein myfyrwyr yn cael y profiad myfyrwyr gorau ac sy’n bosib. I gefnogi hyn, rydym yn buddsoddi’n drwm yn ein mentrau ddiogelwch i sicrhau gall pawb cael mynediad i’r digwyddiadau, gweithgareddau a chymorth mewn amgylchedd diogel. Yn ôl, gofynnom i ein gweision i wneud ei rhan yn cadw ei hun a phawb o’i amgylch yn ddiogel.

Yng ngoleuni’r digwyddiadau sbigo diweddar yng nghlybiau nos, rydym wedi gosod allan y mesurau diogelwch isod:

 

Rydym wedi cynyddu chwiliadau

Rydym wedi cynyddu'r nifer o chwiliadau hap ar fynediad i ein lleoliadau. Mae pob bag yn cael ei chwilio ar fynediad.

 

Agwedd dim goddefgarwch

Trosedd yw sbigo diod a fydd hi yn cael eu trin yn difrifol iawn. Rydym yn gweithio yn agos gyda’r heddlu, awdurdodau lleol a Pubwatch i weithredu agwedd dim goddefgarwch.

 

Gorchuddion gwydreidiau

Mae gorchuddion gwydreidiau Stop Topps a Spikey Bottle Stoppers ar gael yn ein holl leoliadau. Mae gorchuddion gwydreidiau ffoil Stop Topp ar gael am ddim  ac rydym yn annog pob un o’n myfyrwyr i ofyn am rain at y bar i gadw eu hunain yn ddiogel 

Posteri diogelwch

Mae nifer o bosteri diogelwch wedi cael ei rhoi lan o amgylch lleoliadau'r UM i godi ymwybyddiaeth o’r materion a chanlyniadau o sbeicio diodydd.

 

Cynllun ‘Ask for Angela’

Rydym yn cymryd rhan yn ail-lansiad RhCT o’r cynllun ‘ASK FOR ANGELA” i amddiffyn unrhyw berson a all deimlo’n ofnus yn ystod date, neu gan eu partner, tra allan. Mae ein staff wedi cael eu hyfforddi mewn gweithredu os mae rhywun yn dod i’r bar ac yn ofyn am ‘Angela’. Bydd y staff yn symud yr unigolyn sydd yn ofyn am Angela o’r person sydd yn achosi nhw anghysur neu gyfyngder, ac yn sicrhau gall yr unigolyn adael yn ddiogel. Mewn unrhyw achos lle mae unigolyn yn dod yn ymosodol neu yn gwneud bygythiadau i frifo unigolyn neu aelod o staff, bydd yr heddlu yn cael ei galw yn syth.

 

Hyfforddiant Gwylwyr Gweithredol

Rydym wedi hyfforddi dros 700 aelod o dîm chwaraeon, clybiau a chymdeithasau mewn Hyfforddiant Gwylwyr Gweithredol. Rhoddir gwybod i fyfyrwyr am gydsyniad ac ymddygiad derbyniol, a sut i herio, mewn ffordd bositif, eraill gallwn weld yn ymddwyn mewn modd annerbyniol.

 

Cymorth

Rydym yn gwybod bydd rhai ohonoch yn poeni neu wedi cael eich sbarduno gan beth rydych wedi clywed ar y newyddion a/neu wefannau cymdeithasol, fell roeddwn ni eisiau rhoi gwybod i chi o’r cymorth sydd ar gael i chi os ydych chi angen mynediad iddi. Os hoffech chi siarad â unrhyw un, byddwn yn annog chi i gysylltu â swyddogion yr UM am gymorth cyfrinachol. Gallwch hefyd cael mynediad i wasanaethau lles i fwcio apwyntiad lles.

·      Mae’r Gaplaniaeth  hefyd yn cynnal cymorth trugarog.

·      Gallwch chi lawr lwytho y SafeZone ap  fel  gallwch gysylltu â thîm diogelwch PDC os ydych yn teimlo’n bryderus, neu yn ystod argyfwng. Gallwch ddymuno cymorth argyfwng trwy’r ap, neu hyd yn oed cofrestru os hoffech chi siarad ag unrhyw un.

·      Bydd cymorth dioddefwr  yn cynnig cymorth trugarog ar ôl i chi riportio trosedd, ond gallwch hefyd adrodd trwy eu gwasanaethau.

·      Mae Rape Crisis yn cynnig cymorth arbenigol i ddioddefwyr o drais rhywiol ac ymosodiadau.

·      Mewn Argyfwng galwch 999

 

Paid ag oedi i estyn os ydych chi angen ni –

studunion@southwales.ac.uk |  01443 483500