News Article

Diweddariad Rygbi Dynion Cystadleuol

Atalodd Undeb Myfyrwyr Prisfysgol De Cymru gweithgareddau rygbi dynion o ganlyniad i ymddygiad anerbynniol cronnol. Adroddir yr Undeb Myfyrwyr I’r Brifysgol, ag aeth ymlaen ag ymchwiliad.

cymraegfeaturedinvestigationrugbysportwelsh

Atalodd Undeb Myfyrwyr Prisfysgol De Cymru gweithgareddau rygbi dynion o ganlyniad i ymddygiad anerbynniol cronnol. Adroddir yr Undeb Myfyrwyr I’r Brifysgol, ag aeth ymlaen ag ymchwiliad.

Edrychodd yr ymchwiliad ar ymddygiad camdriniol, camymddwyn arall, ac ymddygiad sy’n anghydnaws â’r hyn a disgwylir gan fod aelod o gymuned y brifysgol.

Mae penderfyniad wedi cael ei wneud yr wythnos yma gan Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb Myfyrwyr i barhau gyda’r gwaharddiad dros dro o dimau undeb rygbi dynion cystadleuol ar gyfer y tymor i ddod.

Tra bod y Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi derbyn fod unigolion wedi’u cosbi o dan god disgyblu’r Brifysgol, roedd yn glir nad oedd digon o amser wedi bod i ymddygiadau newid o fewn grwp ehangach. Cydnabu’r bwrdd yr angen i leoliad i weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu ymagwedd gydweithredol tuag at rygbi, gan roi’r cyfle i fyfyrwyr fod ar ganol y proses yma.

Mae’r Undeb Myfyrwyr wedi cwrdd â holl chwaraewyr undeb rygbi yn gynharach heddiw i gyfarwyddo nhw o ganlyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac u amlinellu'r camau nesaf.
 

Rydym yn ddeall nad hwn yw'r canlyniadau roedd llawer ohonoch chi yn eisiau, ond rydym wedi derbyn nifer o ymatebion cadarnhaol o chwaraewyr rygbi dynion sydd yn fodlon i fod yn gynwysedig yn y proses.
Nid yw cyrsiau rygbi'r brifysgol yn cael ei effeithio ac mae ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol arall ar gael.


Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’n holl fyfyrwyr sy’n chwarae rygbi i gyflawni  rhaglen hyfforddi well, a fydd yn osod sylfaen ar gyfer rhaglen chwaraewyr  cryf a arweinir gan werth yn 2020.

Mae’r Undeb Myfyrwyr yn ymroddedig i sicrhau fod ein gwerthoedd o fod yn barchus, derbyniol, cynhwysol ac amrywiol at galon ein holl waith. Rydym yn cynnal y disgwyliadau ag amlinellir yn Siarter y myfyrwyr, a ddatblygir ar y cyd gan y Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr.

Rydym eisoes wedi darparu hyfforddiant gwerthoedd ac ymddygiad i hyfforddwyr, capteiniaid timau, clybiau a phwyllgorau cymdeithas ers dechrau’r flwyddyn academaidd ac mae sesiynau’n parhau gyda’r holl gyfranogwyr chwaraeon newydd a rhai sy’n dychwelyd. Byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr rygbi dynion i gyflwyno rhaglen hyfforddi well o amgylch y gwerthoedd a’r ymddygiadau disgwyliedig mewn partneriaeth ag arbenigwr cydraddoldeb, yn ogystal â nifer o weithgareddau arall.

Cefnogir y penderfyniad a wneir gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn llwyr gan BUCS. “Nid yw ymddygiad camdriniol ac amhriodol yn rhan o werthoedd chwaraeon na’r cynhwysiant y mae BUCS yn hyrwyddo ac rydym wedi calonogi gan safiad PDC i ddisgyblu’r rhai sy’n cymryd rhan yn ogystal â datblygu rhaglen addysgol a phroses fewnol sy’n creu’r gwerthoedd ac ymddygiad cywir ar gyfer eu chwaraewyr myfyriol.”

Os ydych yn fyfyriwr ac eisiau trafod rygbi dynion, neu os hoffech ymgysylltu â ni i ddatblygu’r ffordd ymlaen, cysylltwch â Swyddog Weithgareddau UM, Ollie Banks su.activities@southwales.ac.uk.

26 Medi, 16:30: Diweddaru i gynnwys sylw gan Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydeinig (BUCS)