TRIO RHYWBETH NEWYDD

PDC yw’r lle perffaith i gamu allan o’ch parth cysur a thrio rhywbeth newydd!

  • Rhowch gynnig ar sbort newydd neu ymuno a chymdeithas, dydych chi byth yn gwybod pa ddrysau gall hi agor. Rydyn ni yn cael amrywiaeth eang o Dimau, Clybiau a Chymdeithasau I ddewis o - neu gallwch chi ddechrau un eich hun! Siaradwch gyda’r IL Gweithgareddau, Jamal, neu edrychwch ar ein gwefan.

 

  • Gwirfoddolwch I fod yn gynrychiolwr cwrs ar ddechrau tymor a helpu casglu adborth o eich cyd-fyfyrwyr a gweithio gyda staff i ddatrys unrhyw broblemau! Bydd yr holl hyfforddi a chymorth ar gyfer y rôl yma n cael ei darparu yn ddigidol. Bydd bod yn gynrychiolydd cwrs yn helpu chi cwrdd â myfyrwyr eraill yn PDC a fydd yn edrych yn wych ar eich CV. Siaradwch ag ein IL Addysg, Kyle, neu weld ein gwefan am fwy o wybodaeth.

 

  • Dod yn Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr a gweithio i datrys problemau ar lefel cyfadran. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymgymered ymchwil i mewn i faterion myfyrwyr gyda hyfforddiant ar gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddiad wedi’u darparu gan yr UM. Nid yn unig bydd hyn yn edrych yn wych are ich CV ond mae yna hefyd bwrsari o hyd at £500 ar gyfer safleoedd CLlM. Gallwch chi hefyd siarad ag ein IL Addysg, Kyle, ynglyn â dod yn CLlM neu gallwch weld ein gwefan yma.
  • Cynrychioli myfyrwyr ar ein Cyngor Myfyrwyr. Rydym yn cael amrywiaeth o swyddi Swyddogion Rhan-amser dal ar agor, o Swyddogion Campws i Iaith Cymraeg, LHDT+, Myfyrwyr Anabl, Menywod a llawer mwy! Gallwch chi siarad â ein Llywydd, David, ynglyn a dod yn Swyddog Cyngor Myfyrwyr neu edrychwch ar y swyddi gwag yma

  • Siaradwch â phobl ar eich cwrs ar y grwp Facebook swyddogol.
  • Mynychu ein ffair Y Glas! Mae Ffair Y Glas I bawb yn PDC, mae’n ddigwyddiad mwyaf yn ystod Y Glas - gallwch ddisgwyl rhyngweithio gydag ein holl Dimau, Clybiau a Chymdeithasau, a derbyn nwyddau am ddim a thalebau disgownt. 

 

OS MAE’N MYND BRAIDD YN LLETHOL

  • Mae dechrau Prifysgol yn dod ac amrywiaeth eang o emosiynau a phrofiadau newydd. Trïwch ymlacio a chymryd amser i'ch hyn os oes angen.
  • Peidiwch â theimlo fod rhaid i chi wneud popeth mae pawb arall yn wneud. Gwneud Y Glas yn ffordd eich hun, a gwneud y byddech chi’n hoffi gwneud.
  • Mae’n naturiol (ac yn hollol iawn!) I deimlo’n hiraethus neu’n nerfus. Efallai mai’n edrych fel bod pawb yn cael amser gwych, ond cofiwch mai llawer o bobl yn yr un cwch, felly siaradwch â theulu a ffrindiau ynglyn  a sut yr ydych yn teimlo. Efallai bydd eich ffrind yn gwerthfawrogi trafodaeth hefyd!
  • Mae’n iawn i deimlo’n bryderus, ond os mae pethau yn mynd bach yn ormod i chi, gofynnwch am gymorth. Gallwch siarad â, David, eich Llywydd, neu i’r Advice Zone ar lein i gael mynediad i’r Gwasanaethau Lles.

 

CYLLIDEBU

Nawr hyn yw’r rhan galed. Rydych newydd wedi derbyn eich benthyciad myfyrwyr ar gyfer y tymor yma, neu rydych wedi newydd gael diwrnod cyflog - beth nawr? Dyma gwbl o awgrymiadau a thriciau os ydych chi’n cael trafferth.

  • Y peth gorau i wneud yw cynllunio eich gwariant pob wythnos ac i gadw rhan bach ar yr ochr fel cyfwng. Gwnewch eich gorau i gadw at eich cyllideb, neu, byddwch yn pennu lan yn byw ar nwdls ar gyfer gweddill y tymor ( a does neb eisiau hwnna)
  • Os oes gennych chi gyfrif cynilo, trïwch roi eich holl incwm ynddi ar gyfer dechrau’r tymor, a dim ond trosglwyddo eich lwfans wythnosol. Ceisiwch beidio dipio yn eich cronfa fwy o arian, oherwydd unwaith mae wedi mynd, mae wedi mynd!
  • Mae rhestrau siopa yn wych os gallwch gadw atyn nhw! Awgrym da: Trïwch ag osgoi mynd ar y siop wythnosol pan rydych yn llwglyd, gan neu fod yn galedech i gadw i'ch rhestr!
  • Dydych chi ddim angen cadw at yr archfarchnadoedd mawr! Mae Aldi a Lidl yr un mor dda, am ffracsiwn o’r pris. Fel arfer byddwch yn ffeindio fod archfarchnadoedd llai yn cael dewisiadau amgen eithaf da, felly rhowch gynnig arnynt!
  • Check out sites like UNiDAYS and StudentBeans for your discounts – all that you need is your student email to sign up! Even check out TOTUM for their discount card! 
  • Edrychwch ar safleoedd fel UNIDAYS a StudentBeans ar gyfer eich disgownts - i gyd rydych chi angen yw eich e-bost myfyriwr i gofrestru! Edrychwch ar TOTUM ar gyfer eu cerdyn disgownt! 

 

RHESTR WIRIO

  • Complete your online enrolment with USW. Don’t forget your pre-induction modules about how to use everything that you’ll need while you’re with us at USW. Find more information here
  • Cwblhewch eich cofrestriad ar-lein gyda PDC. Peidiwch ag anghofio eich modiwlau cyn sefydlu ynglyn â sut i ddefnyddio popeth byddwch chi angen pan rydych chi gyda ni yn PDC. Darganfyddwch mwy o wybodaeth yma.
  • Ymunwch a ni ar Facebook, Trydar ac Instagram (@USWSU). Byddwn ni yn postio ein prif ddiweddariadau yma - felly rhowch ddilyn i ni!
  • Download your free copy of Microsoft Office. It's free for all USW students, and you can download yours as soon as you've completed your enrolment.
  • Lawr lwythwch eich copi o Microsoft Office am ddim. Mae’n  ddi-dâl i holl fyfyrwyr PDC a gallwch chi lawr lwytho copi chi unwaith rydych wedi cwblhau eich cofrestriad.
  • Paid ag aros tan rydych yn afiach - cofrestrwch gyda Gwasanaeth Iechyd y Brifysgol pan rydych yn cyrraedd. Dod a’ch hanes brechlyn, wybodaeth eich Meddyg Teulu ac eich rhif GIG.
  • Derbyn eich cerdyn TOTUM (wedi’u pweru gan NUS Extra) I gael dros 200 disgownt ar bopeth o gyflenwadau Prifysgol I ffasiwn. Bydd pob myfyriwr sy’n prynu cerdyn hefyd yn cael y budd ohoni hi hefyd yn bod yn Gerdyn Hunaniaeth Myfyrwyr Rhyngwladol (ISIC), yr unig brawf o statws myfyriwr a dderbynnir yn rhyngwladol. Gellir prynu cerdyn yma.
  •  Gwiriwch eich hanes brechlyn. Mae’r GIG yn awgrymu fod myfyrwyr newydd yn derbyn brechlyn i ddiogelu yn erbyn meningitis a septicaemia cyn gadael ar gyfer Prifysgol - maen nhw am ddim o eich Meddyg Teulu. Hefyd, gwiriwch lle gallwch chi gael eich brechlyn COVID os nad ydych wedi derbyn dau eto.
  • Cymryd mantais o bopeth sydd gan yr Undeb Myfyrwyr i gynnig. Gallwch chi ymuno a Chlybiau neu Gymdeithasau a mynychu digwyddiadau! Paid ag anghofio, gallwch chi derbyn cymorth am astudiaethau academaidd ac eich lles hefyd!

 

 

 

CWESTINAU CYFFREDIN

Sut fydd Y Glas 2022 yn edrych?

Fel 2021, rydym yn nol ac yn wyneb i wyneb! Byddwn yn cynnal WelcomeFest ar draws ein holl gampysau lle byddwch yn gallu mynychu ein ffair Y Glas a derbyn mwy o wybodaeth ynglyn â sut i ymwneud â chlybiau, cymdeithasau, timau a’r UM. Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal digwyddiadau yn Eclipse a Mo’s (ein bar a chlwb nos yn yr Undeb Myfyrwyr) ar draws y pythefnos lle bydd yna rywbeth i bawb!

Sut bydd fy mhrofiad Prifysgol yn wahanol yn 2022?

Gyda chyfyngiadau Covid-19 ar eu hisaf, mae pob ymdrech posib yn cael ei wneud i sicrhau fod eich profiad prifysgol yw’r gorau ag y gall hi fod!

Mae PDC wedi gosod eu cynlluniau ar gyfer dysgu ac addysgu o fis Medi. Bydd pob dysgeidiaeth wyneb i wyneb gyda dysgu yn cael ei darparu trwy ddarlithoedd neu’n wedi’i ategu gydag adnoddau digidol.

Bydd yr Undeb Myfyrwyr yn cynnig digwyddiadau wythnosol, gan gynnwys Karaoke ac ein nosweithiau ‘Vibe’ yn Eclipse. Mae hi hefyd yn cael amrywiaeth o ddigwyddiadau, wyneb i wyneb i’ch cael yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Bydd holl wasanaethau at leoliadau Undeb Myfyrwyr yn gwbl weithredol.

Beth allai archwilio yn Nhrefforest, Caerdydd a Casnewydd?

Mae tref Pontypridd yn cynnig cymysgedd o siapiau newydd ac annibynnol, gyda marchnad dan do sydd yn gartref i fusnesau bach a bwydydd arobryn. Mae yn ddigon i wneud o amgylch Pontypridd, o ymweld â Lido Cenedlaethol Cymru, archwilio’r llwybr Taf, neu ymweld â Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Caerdydd yw prif ddinas Cymru ac yn cynnig amrywiaeth wahanol o weithgareddau a lleloiadau i archwilio. Beth am ymweld ag Amgueddfa Cenedlaethol neu Castell Caerdydd? Neu fynd lawr i’r Bae i archwilio’r Canolfan Mileniwm Cymru, ewch ar daith cwch I Ynys Echni neu ymweld â’r Senedd.

Mae Casnewydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac ardaloedd i’w harchwilio ar garreg drws ein campws yng Nghasnewydd, sydd wedi’u lleoli ar hyd yr afon Wysg. Yn gyferbyn i ein campws, gallwch ymweld â chanolfan siopa Kingsway. Mae Casnewydd hefyd yn gartref i amryw o safleoedd hanesyddol ac archeolegol. Mae’r Bont Cludo yn un o ddim ond dwy sydd ar ôl yn Ewrop ac mae Ty Tredegar yn cynnal cyfle i chi archwilio plasty o’r 17eg canrif!

 

Sut ydw i’n cadw cofnod o bopeth sy’n digwydd?/ Sut ydw i’n wneud yn siwr dydw  ddim yn colli allan ar weithgareddau allweddol? (Trwy ddilyn eich UM)

Mae’r UM yn rhedeg amryw o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous i chi cymryd rhan ynddo trwy gydol y flwyddyn. I sicrhau dydych chi ddim yn colli mas, dilynwch yr UM ar y gwefannau cymdeithasol (Facebook, Instagram a Thrydar). Hefyd, peidiwch ag anghofio i wirio USWSU.com yn gyson ar gyfer diweddariadau o swyddogion ac ar gyfer digwyddiadau i ddod.
   

Dwi’n myfyriwr rhyngwladol, beth ddylai wneud wrth gyrraedd yng Nghymru?

Yn gyntaf, croeso i Gymru! Rydym mor falch eich bod wedi dod yma ac rydym yn gobeithio eich bod yr un mor cyffroes a ni. MAe gan De Cymru llawer o bethau gwych i wneud dim ots pa gampws rydych chi ar. Os ydych chi’n hoffi natur a cherdded, beth am fynd ar daith i barc cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Mae yna lond llaw o deithiau cerdded natur a llwybrau mynydd y gallwch chi fynd yn sownd ynddi. Os ydych yn hoff o hanes neu byddech yn hoffi dysgu mwy am dreftadaeth a diwylliant Cymru, yna gall Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan fod yn y lle i chi. Os hoffech chi wybod eich ardal leol yn well, yna trio rhai o’r awgrymiadau rydym wedi argymell ar gyfer archwilio Trefforest, Caerdydd a Casnewydd.

 

Pryd allai ddechrau archebu tocynnau Y Glas?

Mae ein holl ddigwyddiadau yn fyw ar ein tudalen digwyddiadau ac mae tocynnau yn barod ar gyfer pryniant. Byddwch chi angen cyfrif UM arnoch, os ydych yn flwyddyn gyntaf gallwch chi sefydlu hyn pan rydych yn derbyn eich rhif myfyrwyr (os nad ydych yn fyfyriwr blwyddyn  gyntaf byddwch yn cael hyn yn barod). Ewch draw i uswsu.native.fm am fwy o wybodaeth ynglyn â’r digwyddiadau sy’n cymryd rhan dros Y Glas ac am docynnau. Ar yn ail, cliciwch ar adran digwyddiadau ar bennyn ein gwefan a fydd yn cymryd chi i’r tudalen digwyddiadau. Bydd unrhyw ddigwyddiadau a chynhelir yn yr UM yn ystod y flwyddyn yn cael eu postio ar y tudalen hwnnw.

 

A oes angen i mi gael fy mrechu i fynychu digwyddiadau Y Glas?

Nac oes. Gan fod y gofynion cyfreithiol wedi cael eu codi yng Nghymru, na fyddwn yn defnyddio pasiau covid-19 i gael mynediad i neu fynychu unrhyw ddigwyddiadau Y Glas. Serch hynny, roeddwn ni  wedi cael hybiau brechu dros dro ar gampws blwyddyn ddiwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny blwyddyn nesaf. P’un a oes angen pigiad atgyfnerthu neu unrhyw ddos arall, byddwch yn gallu cael hi yn un o’r hybiau.

Ble mae’r swyddfeydd yr UM ar bob Campws?

Mae gan yr UM swyddfeydd ar draws Pontypridd, Caerdydd a Gasnewydd. Bydd Swyddogion Myfyrwyr yn cylchdroi rhwng y swyddfeydd y sicrhau fod myfyrwyr yn cael cyfle i drafod unrhyw broblemau.

Gallwch ffeindio ein campysau yn:

Pontypridd - Trydydd llawr o adeilad yr Undeb Myfyrwyr, mae’r adeilad wedi eu lleoli rhwng diogelwch y campws a’r SportsZone.

Casnewydd - Wedi eu lleoli ar bwys siop yr UM ar lawr B, ar bwys yr Ardal Cynghori

Caerdydd - Drws cyntaf ar eich chwith ar top y grisiau i’r Zen Bar

Ble mae’r swyddogion wedi’u lleoli?

Mae ein Swyddogion wedi’u leoli ar draws pob campws ac yn gweithio ar rota i sicrhau fod nhw ar gael ar gyfer pob myfyriwr. Bydd swyddogion UM yn postio diweddariadau cyson are u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar ble maent wedi’u lleoli. Gallwch chi hefyd cysylltu â’r swyddogion i ofyn pryd fydyn nhw are ich campws neu i drefnu cyfarfod gyda nhw.